Pwy yw Magi Ann? Llyfrau wedi eu hysgrifennu gan Mena Evans gyda’r nod o gefnogi plant a’u teuluoedd i ddysgu darllen yn Gymraeg, a Magi Ann yw'r prif gymeriad. Mae'r llyfrau yn parhau i fod yn boblogaidd ddegawdau yn ddiweddarach, gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam...
Newyddion
Dymuniadau’r Ŵyl i bawb!
Bydd swyddfa MIC ar gau o Rhagfyr 24 – Ionawr 4ydd
Sion Corn sy’n siarad Cymraeg – ei leoliadau ar draws y wlad!
Wyt ti am i dy blentyn siarad Cymraeg gyda Siôn Corn? Cymer olwg yn y llyfryn defnyddiol hwn!
Hengwrt – canolfan newydd Menter Dinefwr
Prosiect adnewyddu yn Llandeilo i agor ei ddrysau cyn y Nadolig Bydd canolfan newydd Menter Dinefwr, Hengwrt, yn Llandeilo yn agor ei drysau mewn pryd ar gyfer y Nadolig yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.Mae Hengwrt yn ganolfan gymunedol newydd sydd wedi'i lleoli ar...
Dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Fenter Iaith gyntaf!
Mae 2021 yn flwyddyn bwysig iawn i Fenter Cwm Gwendraeth Elli. Eleni, mae'r Fenter yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu yn 1991. Yn amlwg mae 'na dipyn o heriau wedi bod i allu dathlu’r Penblwydd pwysig hwn, ond llwyddwyd i gael llwyth o ddigwyddiadau...
Menter Iaith Abertawe – rhyddhau logo newydd
Mae'r logo yn adlewyrchu tirwedd Abertawe, a gweledigaeth fodern y Fenter Iaith ar gyfer yr iaith Gymraeg. Dyma'r logo byddi'n gweld ar holl ddeunydd marchnata y Fenter a'u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol o hyn allan. Edrych mas am y logo am gyfleoedd i ddefnyddio a...
Y Mentrau Iaith yn chwilio am Siôn Corn Cymraeg!
A fydd Siôn Corn yn dod i dy ardal di? Bydd e’n siarad Cymraeg?
Gad i’r Fenter Iaith wybod NAWR er mwyn rhannu’r neges!
Gŵyl Tawe – Gŵyl Newydd i Abertawe
Mae Menter Iaith Abertwe yn gyffrous iawn i allu cyhoeddi gŵyl iaith Gymraeg newydd ar gyfer Abertawe! Bydd Gŵyl Tawe yn digwydd tu allan i dafarn y Railway Inn yng Nghilâ ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi. Bydd cerddoriaeth fyw gan Papur Wal, Mari Mathias, a Bwca, a DJs...
Dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr dros Gymru
Mae gwirfoddolwyr yn rhan greiddiol o waith llawer iawn o elusennau a mudiadau eraill. Maen nhw’n bresenoldeb gwerthfawr mewn nifer o gymunedau, ac maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn mannau mor amrywiol â chlybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, ysgolion ysbytai, yr Urdd,...