Mae Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, y sefydliad sy’n arwain Canolfan Iaith Gymraeg, Canolfan Soar a’r theatr gymunedol, Theatr Soar, wedi ei dyfarnu ag achrediad sy’n bodloni Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, gan arddangos ymrwymiad y Ganolfan i berfformiad uchel...
Newyddion
Agoriad Swyddogol Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Cyffordd Llandudno
Mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, prosiect a dyfodd o waith Menter Iaith Conwy a gwirfoddolwyr lleol wedi agor yn swyddogol. Daeth y Prif Weinidog Carwyn Jones, i agor Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Cyffordd Llandudno yn swyddogol ar y 4ydd o Chwefror. Nia Owen,...
Y Gymraeg: Arf farchnata i fusnesau a chymunedau Cymru?
Dyma fydd un o gwestiynau Cynhadledd Flynyddol Swyddogion y Mentrau sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gymraeg newydd sbon Caerdydd, yr Hen Lyfrgell yfory, 2il o Chwefror. Bydd y sesiynau, sy’n tynnu swyddogion datblygu a phrosiect o bob cwr o Gymru at ei gilydd yn...
Blwyddyn Newydd Dda
Mae’r flwyddyn newydd yn gyfnod cyffrous iawn, gyda nifer yn dymuno blwyddyn lewyrchus arall neu flwyddyn well na’r un a fu i’w cymdogion a’u cyfeillion, ac yng Nghymru mae gennym draddodiadau unigryw eraill i nodi’r achlysur. Un o’r arferion hynod hynny yw’r Fari...
Galw Bandiau Ifanc Cymru
Cyfnod Ymgeisio ar gyfer Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016 yn awr ar agor Rydym ni, C2 Radio Cymru, a Maes B yn chwilio am fandiau newydd ifanc Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, sy’n cael ei lansio heddiw. Mae cystadleuaeth Brwydr y...
Galw i Ddiogelu Cyllid s4c
Mae Mentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith y 23 Menter Iaith ar draws Cymru, yn datgan ein gwrthwynebiad i fwriad Llywodraeth San Steffan i dorri grant S4C, ein hunig sianel deledu Cymraeg, o 26% erbyn 2020. Credwn y byddai'r toriadau arfaethedig...
Cwis ‘Dim Clem’ yn creu cynnwrf yn Ninefwr
Gornest Gwisiau Newydd i Ysgolion Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi Mae’r cwis ‘Dim Clem’ yn brosiect newydd sydd wedi’i ddatblygu gan Menter Bro Dinefwr sy’n bwriadu dod â disgyblion blwyddyn chwech ysgolion cynradd Dyffryn Aman a Dyffryn Tywi ynghyd mewn rownd derfynol...
Dysgwch Gymraeg gyda Pacca yr Alpaca
Mae app poblogaidd Pacca Alpaca, sy’n dysgu ieithoedd i blant bach wedi ychwanegu Cymraeg i’r 6 iaith arall sydd arni; Ffrangeg; Almaeneg; Arabeg; Sbaeneg; Mandarin a Saesneg! O lawrlwytho’r app hon bydd eich plentyn yn mynd ar antur o gwmpas y byd gyda Alpaca doniol...
Cynhadledd Flynyddol Mentrau Iaith Cymru
Gwerth Economaidd y Gymraeg o blith rhai o brif bynciau Cynhadledd Flynyddol y Mentrau Iaith Eleni, bydd ein cynhadledd flynyddol i Brif Swyddogion a Chadeiryddion y 23 Menter Iaith yng Nghymru yn cael ei chynnal ar y 17eg a’r 18fed o Dachwedd yng Nghanolfan Soar,...
Gemau am Oes – Ymunwch nawr!
Mae Gemau am Oes yn ymgyrch 8 wythnos sy'n anelu i ysbrydoli plant 5-11 oed i fod yn fwy heini yr Hydref hwn a thu hwnt. Mae nifer o syniadau i ysbrydoli’r teulu cyfan – gemau tu mewn, gemau grŵp a gemau awyr agored. Lansiwyd yr ymgyrch ar 12 Hydref gan Frankie Jones,...
Tric neu drît – cast neu geiniog!
Dathlu Calan Gaeaf Bydd llawer o bobl yng Nghymru yn dathlu Calan Gaea’ eleni ond faint ohonom, tybed, sydd yn gwybod am rai o hen arferion ni’r Cymry sy’n ymwneud â’r adeg arbennig hwn. Wyddet ti mai hen wledd Geltaidd i ddathlu diwedd yr haf a diwedd ar yr hen...