Mae Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy wedi lansio ei gwefan newydd sbon yr wythnos hon fydd yn cyflwyno gwybodaeth eang a chynhwysfawr am weithgareddau trwy’r Gymraeg yng nghymunedau’r de ddwyrain.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg, ysgolion lleol a manylion perthnasol eraill, mae calendr deinamig wedi ei ymgorffori yn y wefan er mwyn creu pwynt canolig ar gyfer pob math o ddigwyddiad a gweithgaredd sy’n cael eu cynnal trwy’r Gymraeg. Mae’r Fenter yn annog pobl i ychwanegu unrhyw beth at y calendr i greu ffynhonnell o wybodaeth gyfredol sy’n tynnu pob gweithgaredd trwy’r Gymraeg at ei gilydd.

Dywedodd Mary Scourfield, Prif Swyddog y Fenter;

“Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwasanaethu trigolion y de ddwyrain wrth anelu at Strategaeth 2050 y Llywodraeth i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

“Rydym yn cydweithio gyda’n partneriaid fel Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Cymraeg i Oedolion, a‘r Urdd Rhanbarth Gwent er mwyn annog ein dysgwyr, plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda’i gilydd tu allan i’r ysgol neu ddosbarth ac wrth gymdeithasu. Rydym yn croesawu hefyd mewnbwn gan ein siaradwyr Cymraeg rhugl i adael i ni wybod beth mae hwythau’n eu trefnu trwy’r Gymraeg at y pwrpas.”

gwefan bgtm

Mae’r Fenter, ynghyd â 22 Menter arall yn cael eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu, hybu a hyrwyddo cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg tu fas i’r dosbarth ac yn y gymuned. Mae tîm o bedwar yn cyflawni’r gwaith hwn dros y tair sir gan drefnu gweithgareddau fel clybiau ar ôl ysgol, boreau hwyl a thripiau i blant ac oedolion, nosweithiau cwis a chân i rieni a boreau coffi i ddysgwyr.

Yn ôl Iwan Hywel, Arweinydd Tîm Mentrau Iaith Cymru, y mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi gwaith y Mentrau lleol;

“Rydym yn falch o weld Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy ar flaen y gad wrth arwain i greu’r adnodd arbennig yma fydd o ddefnydd i bobl o bob oed yn eu hardal yn ne ddwyrain Cymru. Drwy weithio’n agos gyda phartneriaid a’r gymuned leol ceisia’r Mentrau Iaith dros Gymru gryfhau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu hardaloedd, ac mae hyrwyddo’r cyfleoedd i wneud hyn yn hollbwysig at gyrraedd y nod.”

Creu gwefan gyfoesol ac addas oedd y cam nesaf yn uchelgais Menter BGTM i fod yn ganolbwynt i gydlynu‘r Gymraeg yn yr ardaloedd sydd ohoni . Mae’r Fenter newydd ei gymeradwyo fel Sefydliad Elusennol Corfforedig o dan gorff rheoleiddio’r Comisiwn Elusennol gyda strwythur llywodraethu newydd sy’n gweddu’r gwaith pwysig sydd i’w gyflawni.

Bydd y datblygiad hwn yn cyfrannu tuag at ymdrechion Menter BGTM i gyflawni’r safon ‘Marc Elusen Gymeradwy (‘Nod Ansawdd PQASSO’ gynt). Bydd hwn yn sicrhau bod sefydliadau yn cael eu rhedeg yn dda, yn atebol ac yn dryloyw ac yn nodi’r hyn sydd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau arferion llywodraethu, systemau ariannol a rheoli risg priodol, a system ddibynadwy ar gyfer mesur canlyniadau. Hoffai’r Fenter groesawu gwirfoddolwyr o bob cwr o’r tair sir i gefnogi’r gwaith heriol hwn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Fenter, gweithgareddau Cymraeg lleol, neu i gyfrannu at y calendr digwyddiadau a gwirfoddoli dros y Fenter, ewch i www.menterbgtm.cymru