Mae Mentrau Iaith Cymru a Menter Iaith Conwy wedi gweithio ar y cyd i drefnu stondin fyrlymus llawn gweithgarwch sy’n addas i bob oed gyda digwyddiadau gwahanol pob dydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Bydd cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu i chwarae’r iwcalele gyda phrosiect Bocswn; i deuluoedd fwynhau stori a chreu bathodyn gyda Magi Ann; i unigolion ddathlu a darganfod eu papur bro lleol; i bobl o dros Gymru ddysgu mwy am dreftadaeth Llanrwst, a llawer iawn mwy.

Dewch draw i’r stondin (M02 ger Artisan) i ddarganfod mwy am waith y mentrau ac am wirfoddoli gyda ni.

Cymrwch olwg ar yr amserlen isod am fwy o wybodaeth:

Digwyddiadau'r stondin, Eisteddfod 2019