Cychwynnwch gyda Shwmae er mwyn cyfrannu at y sgwrs genedlaethol
Gyda dim ond dyddiau i fynd at Ddydd Shwmae Su’mae, mae’r Mentrau Iaith wedi trefnu degau o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad i’ch helpu chi ymuno yn y dathlu.
Byddwch yn rhan o rywbeth enfawr trwy gyfarch eich gilydd yn Gymraeg ar ddydd Sadwrn 15 Hydref. Gallai un Shwmae neu Su’mae ysbrydoli cannoedd neu filoedd mwy yn ystod y flwyddyn.
Mae Dathlu’r Gymraeg, y mudiad ambarél tu ôl i Shwmae Su’mae yn pwysleisio fod y diwrnod yn eiddo i bawb. Mae’r fenter wedi sefydlu gwreiddiau cadarn dros y pedair blynedd ddiwethaf diolch i ymdrechion ar lawr gwlad. Dywed Rebecca Williams, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg:
“Mae Dydd Shwmae Su’mae’n gyfle i ddathlu’r iaith – ac i sicrhau’r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i’w defnyddio – drwy gyfarch yn Gymraeg ar y dechrau, yn hytrach na diolch yn Gymraeg ar y diwedd!”
Dywed Owain Gruffydd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:
“Mae nifer o’r Mentrau Iaith yn trefnu digwyddiadau ym mhob cwr o Gymru, yn bartion dathlu i deuluoedd, gigs, cystadlaethau busnes a chynnal stondinau codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg.
Cofiwch gysylltu â’ch Menter Iaith leol heddiw i glywed mwy am y gweithgareddau sy’n cael eu trefnu yn eich hardal chi i ddathlu’r dydd arbennig hwn.”
Eisiau cymryd rhan yn eich ardal chi? Lawrlwythwch y Pecyn Adnoddau Shwmae (i’w weld ar yr ochr dde) yn cynnwys posteri, taflenni a gwaith celf defnyddiol i hyrwyddo’r dydd arbennig hwn. Yn ogystal, cewch weld rhestr lawn o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu yn eich ardal chi!