Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Menter Caerdydd wedi bod yn cynnal gweithdai yn ysgolion Fitzalan High, Whitchurch High, Glantaf, Bro Edern a Plasmawr, yn creu bandiau newydd i berfformio yn Tafwyl fel rhan o raglen i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg ymysg pobl ifanc.

Daeth hi’n amlwg i drefnwyr yr ŵyl fod prinder yn nifer bandiau ifanc Cymraeg eu hiaith yng Nghaerdydd, felly aeth Menter Caerdydd ati, gyda chymorth y tiwtoriaid Mei Gwynedd, Tara Bethan ac Elan Issac, i redeg gweithdai mewn ysgolion yng Nghaerdydd i greu bandiau newydd. Esbonia Llinos Williams, Trefnydd Tafwyl ym Menter Caerdydd;

“Mae’r gweithdai yma ychydig yn wahanol i’r gweithdai band arferol, rydym yn ceisio cyrraedd y disgyblion sydd heb gefndir cerddorol. Mae’r gweithdai yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau technoleg cerdd, perfformio a chynhyrchu gydag elfennau o rap ac electroneg yn ogystal i’r pop a roc.

Mae’r bandiau newydd yn mynd yn ei blaenau i berfformio ar lwyfan Yurt T yn ystod penwythnos gŵyl Tafwyl, sy’n denu tua 40,000 o bobl – profiad anhygoel i’r bobl ifanc.

Mae’n braf clywed bod rhai bandiau yn dal ati i ymarfer a pherfformio yn dilyn Tafwyl, gydag un band wedi perfformio yn Neuadd Dewi Sant!”

Un o’r bandiau hyn sydd wedi parhau i greu cerddoriaeth yw ‘Fitz8’, band wedi ei greu o ddisgyblion ysgol Fiztalan High. Dywed un o’r aelodau;

“Mae Fiztalan yn ysgol amlddiwylliannol iawn ac mae canu’r gân mewn gwahanol ieithoedd yn fy helpu i deimlo’n rhan o’r aml ddiwylliant.”

9

Dywedodd Rachael Morgan-Jones, athrawes yn Fitzalan High;

“Mae’r prosiect yn gyfle delfrydol i ddisgyblion wella eu dawn gerddorol law yn llaw ac ymarfer ychydig o Gymraeg! Os am enghraifft berffaith o’r Gymraeg yn estyn allan at ddysgwyr dwyieithog, dyma un. Rydym yn edrych ymlaen i’r prosiect ddychwelyd i’r ysgol a chyrraedd mwy o’n disgyblion blwyddyn nesaf, mae disgyblion Fitzalan wrth eu bodd yn cofleidio’r ‘hen iaith’.”

Dywed Manon Rees-O’Brian, Prif Weithredwr Menter Caerdydd;

“Mae miwsig yn ffordd wych i ddod â phobl at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, y rhai llai hyderus, dysgwyr a’r di-gymraeg.  Mae’n ffordd o uno cynulleidfa gan mai dim ond y gerddoriaeth sy’n bwysig. Does yr un lle yn fwy amlwg na Tafwyl i ddangos hyn – gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu’r iaith, sy’n wledd o gerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant Cymreig.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn blatfform arbennig sy’n rhoi sylw i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg ac yn ffenestr siop i gerddoriaeth Gymraeg a’r artistiaid talentog sydd gennym ar hyd a lled Cymru.”

Rhai o sylwadau’r band:

David Hassan Dubba Richards – “I love being part of Fitzwyth, I hope we continue after leaving school.  Our friends come to watch us.  It’s such a fun thing to do.”

Eshaan Rajesh – “A weekly challenge to develop my guitar skills and practise my Welsh. It’s so enjoyable.”

Corey Beverstock – “Performing in the Tafwyl was such a great experience.”

Fiza Naeem – “My drumming skills have really improved, and my parents are so impressed with me singing in Welsh.” 

Emily Brown – “I love the Welsh language and I love music.  Writing and rehearsing as part of Fitzwyth has been such a great part of my school life.”