Ydych chi’n byw yn ardal Eryri, yn siarad Cymraeg ac yn dymuno dilyn gyrfa Awyr Agored?  Efallai gall Menter Iaith Conwy fod o gymorth i chi.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae Menter Iaith Conwy wedi creu a chynnal perthynas i gynorthwyo’r sector awyr agored i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg oedd yn gweithio fel hyfforddwyr. Cynorthwywyd dros 300 unigolyn i dderbyn cymwysterau yn y maes awyr agored, a thrwy waith Menter Iaith Conwy a’r Bartneriaeth Awyr Agored mae’r canran o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y maes Awyr Agored yn 2003 wedi cynyddu o 5% i 28% erbyn 2015.

“Mae ffordd bell i fynd eto” yn ôl cydlynydd y Cynllun, Bedwyr ap Gwyn.

 “Mae’r Fenter wedi llwyddo i ddenu arian newydd trwy Gronfa Arbrofol Eryri, er mwyn cynnal a datblygu’r gwaith da o gynorthwyo siaradwyr Cymraeg lleol i ddatblygu eu cymwysterau er mwyn gweithio yn y maes awyr agored yn lleol.  

“Mae’r grant hwn ar gael i bobl gymhwyso i lefelau uwch o fewn y diwydiant awyr agored, yn y gobaith o gynyddu cymhwysedd y Gymraeg o fewn y maes, ac yn y pendraw i greu hyfforddwyr fydd yn gallu hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr yn Gymraeg”

Mae’r grant o hyd at 50% tuag at gostau’r cwrs ar gael rwan,

Ychwynegodd Bedwyr “Byddwn yn lawnsio’r cynllun drwy cynal 2 ddiwrnod Antur i’r Teulu yng Nghanolfan Nant Blwch yr Hearn ar y 31 o Gorffennaf a 1 o Awst. Ein bwriad yw dechrau diddordeb hyfforddwyr y dyfodol yn ifanc.” 

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Bedwyr ap Gwyn dros e-bost neu ffonio; bedwyr@miconwy.org neu 01492 642357