Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy? Cyflog: £21,575 i £24,054 pro rata yn ddibynnol ar brofiad. Oriau: Hyd at 30 awr yr wythnos (i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)...
Newyddion
Aderyn y to
Mae penwythnos gwylio adar yr ardd newydd fod, a bydd llawer ohonoch wedi treulio awr yn cyfrif faint o adar, a pha rywogaethau, oedd yn ymweld â’ch gerddi. Roeddwn innau wedi ail-lenwi’r tiwbs hadau rai dyddiau ynghynt, a dyma fi yng nghuddfan yr ystafell fyw gyda...
Lansio ymgyrch Dyblu’r Defnydd yn Nigwyddiad Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn falch iawn o gyhoeddi ymgyrch newydd ar gyfer 2024 sef Dyblu’r Defnydd. Bwriad yr ymgyrch yw agor sianel gyfathrebu gyda’r cyhoedd i gasglu syniadau am gyfleoedd i gynyddu’r defnydd o Gymraeg yn gymunedol.
*wedi penodi* – Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol i arwain y gwaith strategol o gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam Cyflog: £28,000 – £35,000 (yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad) + pensiwn...
Hapus i Siarad
Busnesau bach sy’n “Hapus i Siarad” yn helpu dysgwyr Cymraeg i siarad yr iaith yn eu cymunedau
*Swydd* – Gweithiwr Chwarae Clwb ar ôl Ysgol – y Fenni
*Swydd newydd* – Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Menter Bro Ogwr
Math o gytundeb: Dros Dro (cyflenwi cyfnod mabwysiadu) Cyflogwr: Menter Bro Ogwr Sir: Pen-y-Bont ar Ogwr Cyflog: hyd at £24,290.33 y flwyddyn pro rata (yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau) Oriau: hyd at 20 awr yr wythnos DISGRIFIAD Gwaith Swyddog Gwasanaethau plant a...
Aeron
Oes na fwy o aeron ar y drain gwynion eleni nag mewn blynyddoedd o’r blaen? Neu ydyn nhw’n fwy coch? Bob blwyddyn, mae ‘na rywbeth yn sefyll allan: mwy o afalau ar y coed, y coed masarn yn agor eu dail yn gynt, y cae yn wyn o flodau llefrith. Eleni, dwi’n tybio bod yr...
*Swyddi newydd* gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf – clybiau carco
Wyt ti'n mwynhau gweithio gyda phlant? Hoffet ti weithio mewn un o'r clybiau carco a chwarae mae'r Fenter Iaith yn eu rhedeg yn y Sir? Dos i gael golwg ar y swyddi newydd sydd ar gael!
Diwrnod Shwmae Su’mae – Dathlu’r 10
Ers 10 mlynedd bellach rydym yn dathlu diwrnod Shwmae / Su’mae a’r Gymraeg ar y 15fed o Hydref. Sut wyt ti’n dathlu eleni? Dyma rai gweithgareddau mae’r Mentrau Iaith yn eu cynnal. Cerddoriaeth13/10 – Sesiwn Werin Tŷ Tawe am 7yh13/10 – Gig Bwncath, Canolfan...
Prosiect ‘Gwreiddiau Gwyllt’ i danio diddordeb mewn byd natur yn y Gymraeg
Fel mae cerdd anfarwol Harri Web ‘Colli Iaith’ yn ei fynegi, os collwn iaith collwn gymaint mwy na dim ond geiriau! Mae’n ymdrech barhaol i warchod a hyrwyddo defnydd o dermau cynhenid Cymraeg ac mae hyn mor wir am y maes amgylcheddol. Yn wir, mae argyfwng newid...