Mae Mentrau Iaith Cymru wedi llwyddo i sicrhau dyfarniad Nod Ansawdd PQASSO yn ddiweddar gan gydnabod y gwaith rhagorol mae’n ei wneud fel mudiad trydydd sector yng Nghymru.  

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru; 

“Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y gydnabyddiaeth yma am drefniadau llywodraethu a rheoli Mentrau Iaith Cymru o fewn y teulu trydydd sector. Mae’r broses hunanasesu ac asesiad allanol wedi bod yn fuddiol tu hwnt wrth adolygu a ffurfioli systemau o fewn y mudiad sydd, yn y broses, wedi gwneud y mudiad yn fwy effeithlon ac effeithiol. Mewn oes ble mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yn gwegian, mae derbyn y nod ansawdd hwn yn bluen yn ein het. Mae’r mentrau lleol hefyd yn mynd trwy broses hunanasesu ac mae’n braf ei bod yn bosib cwblhau pob elfen o’r broses asesu PQASSO trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n amlwg yn bwysig tu hwnt i ni fel Mentrau.” 

Mae PQASSO yn rhan o National Council for Voluntary Organisations (NCVO), a dyma’r unig safon ansawdd yn y Deyrnas Unedig sy’n helpu mudiadau trydydd sector i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon. Aseswyd Mentrau Iaith Cymru yn erbyn yr 11 safon o arferion effeithiol a geiff yn PQASSO, gan gynnwys llywodraethu, arwain a rheoli, rheoli staff a gwirfoddolwyr a rheoli arian, ac fe brofodd ei fod yn cyrraedd pob un o’r safonau hyn.   

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr, WCVA; 

 “Gŵyr mudiadau trydydd sector yng Nghymru fod llywodraethu effeithiol yn allweddol i gynaliadwyedd. Mae WCVA yn falch o gefnogi a hyrwyddo PQASSO yng Nghymru”.  

Mae Mentrau Iaith Cymru yn fudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru. Mae Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi’r rhwydwaith trwy amryw o weithgareddau a meysydd, gan gynnwys marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg. Yn llorweddol i’w gwaith mae’r egwyddor o rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill ar draws Cymru. 

Dywedodd Heledd Kirkbride, Swyddog PQASSO Cymru, NCVO; 

“Rydym wrth ein boddau ar ran ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr Mentrau Iaith Cymru eu bod wedi sicrhau Nod Ansawdd PQASSO. Rydym yn gwybod bod mudiadau sy’n defnyddio PQASSO yn elwa drwy wella eu trefniadau llywodraethu, eu systemau, eu gweithdrefnau ac ansawdd eu gwasanaethau i’w defnyddwyr ac mae’n ardderchog bod cymuned defnyddwyr PQASSO yng Nghymru yn tyfu”. 

gwaelod ebost