Mae prosiect Marchnad Lafur Cymraeg* wedi lansio Cynllun Cymorth Mentoriaid fel rhan o’i glwstwr Perchnogaeth Gymunedol. 

Mae’r syniad o greu’r cynllun mentoriaid wedi deillio o ganlyniad i drafodaethau yng Nghynhadledd Perchnogaeth Gymunedol a chafodd ei gynnal yn Galeri, Caernarfon diwedd Mehefin 2018, lle welwyd yr angen am gymorth ymarferol ar fentrau cymunedol er mwyn cynyddu cymhwysedd a datblygu eu gwasanaethau. Fe ddatblygwyd y cynllun ymhellach gyda’r grŵp gweithredol y clwstwr gan ei weld yn bwysig ein bod yn dod o hyd i ffordd fwy effeithlon o rannu arferion da ymysg mentrau yn enwedig y mentrau cymunedol newydd sy’n gweld angen am brofiad ac arbenigedd wrth ddechrau’r broses o greu busnes.  

Dyma Rhun Dafydd, Swyddog prosiect yn esbonio ymhellach  

“Bydd y cynllun yn cynnig mentoriaid i fentrau cymunedol neu sefydliadau cymunedol sydd eisiau cymorth ymarferol i gynyddu cymhwysedd. Mae’r cynllun ymgynghori hwn yn wahanol i gynlluniau mentora eraill gan ei fod yn cynnig ethos a chymorth Cymraeg a Chymreig lle mae’r gymuned yn ganolbwynt i’r gweithgaredd. Bydd y cynllun peilot yn ceisio targedu helpu hyd at bum menter wahanol gan ganolbwyntio ar fentrau cymunedol sydd ar gychwyn eu taith a chynghorau cymunedol sydd yn edrych ar gynyddu cymhwysedd eu clerc lleol.” 

Rydym wedi dethol mentoriaid o amryw o fentrau cymunedol sydd â phrofiad ac arbenigedd penodol yn y maes i weithio gyda’r mentrau neu sefydliadau cymunedol ar gynyddu cymhwysedd trwy gynnig cymorth mewn amryw o ffyrdd megis trwy helpu gyda marchnata neu gynllun busnes. Byddwn yn penodi’r mentoriaid yn ddibynnol ar ba fath o gymorth mae’r fenter ei angen. 

Enghraifft o’r cynllun mentoriaid yw’r gwaith rydym wedi dechrau gwneud wrth benodi i Bartneriaeth Ogwen i weithio gyda Chyngor Tref Pwllheli i gynyddu cymhwysedd y Cyngor gan edrych ar ffurf newydd o weithio trwy weithio gyda’r Cyngor dref i ddatblygu Cydlynydd Cymunedol fydd yn cynyddu gweithgaredd economaidd yn yr ardal. 

Fel rhan o’r clwstwr rydym wedi gwneud gwaith mapio cyffredinol sy’n rhoi syniad o gyflwr mentrau cymunedol yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys holiadur rydym wedi rhannu ymysg mentrau cymunedol sydd wedi rhoi gwybodaeth am  anghenion a heriau sy’n eu gwynebu. Os ydych yn fenter gymunedol neu’n sefydliadau cymunedol sy’n edrych ar gynyddu cymhwysedd ond angen cymorth arbenigol anfonwch ymholiad atom i weld os oes potensial o gyd-weithio gyda’r cynllun. 

Mae’r gwaith rydym wedi cyflawni hyd yn hyn yn golygu ein bod yn deall pa fath o gymorth mae’r mentrau ei angen, y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn medru bod yn adnodd gwerthfawr i brofi’r angen am gymorth ymarferol ar fentrau cymunedol a dangos buddion o weithio yn fwy cynaliadwy er lles economi ein cymunedau. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

*Mae prosiect Marchnad Lafur Cymraeg am greu ymgysylltiad rhwng sectorau a chwmnioedd sydd a’r potensial o ddatblygu gwasanaethau a chynhyrchion sydd yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol y Gymraeg. Nod y prosiect yw datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd fydd yn gyfrwng i ddatblygu ac adfywio y Gymru Wledig. 

Yn fenter / sefydliad cymunedol sydd eisiau bod yn rhan o’r cynllun Cymorth Mentoriaid cysylltwch: marchnadlafurcymraeg@four.cymru