Bydd Menter Brycheiniog a Maesyfed yn lansio llyfryn Enwau Lleoedd Brycheiniog a Maesyfed ddydd Gwener, Mehefin 1af, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd.

Er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i’r ardal ym mis Mai, 2018 mae Menter Brycheiniog a Maesyfed wedi cydweithio gyda Chyngor Sir Powys i gynhyrchu llyfryn defnyddiol a diddorol sy’n bwrw golwg ar storïau a hanesion tu ôl i enwau lleoedd y fro.

O enwau trefi, pentrefi a ffermydd i fynyddoedd, llynnoedd a nentydd – mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth a fydd o ddefnydd i drigolion lleol de Powys ac i ymwelwyr i’r fro.

Dywed Bethan Price, Cydlynydd Menter Brycheiniog a Maesyfed;

“I nifer o drigolion yr ardal hon, mae’r iaith Gymraeg yn amlwg mewn enwau lleoedd yn unig – ac rydym ni’n ffodus iawn yn yr ardal i gael nifer o enwau diddorol tu hwnt! Mae enwau lleoedd yn gallu tanio diddordeb yn y Gymraeg, ac mae dealltwriaeth yn gam pwysig at sicrhau nad yw enwau traddodiadol yn cael eu newid i’r Saesneg. Mae’r llyfryn yma hefyd wedi bod yn gyfle i nodi rhai hanesion a chwedlau lleol bydd o ddiddordeb i bobl lleol ac ymwelwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Cyngor am eu cefnogaeth wrth gynhyrchu’r llyfryn.”

Bydd copïau caled o’r llyfryn ar gael gan y Fenter ac yng nghanolfannau’r Cyngor Sir gyda fersiwn ddigidol ar gael i’w lawrlwytho o wefan mentrauiaith.cymru.

Dywed Myfanwy Alexander, Deilydd Portfolio Addysg a’r Gymraeg dros Gyngor Sir Powys:

“Rwy’n croesawu’r llyfryn yma fel cyfle i ddathlu treftadaeth Gymraeg ein hardal, ac rwy’n gwir obeithio y bydd y wybodaeth yn sbarduno diddordeb ymhlith ymwelwyr a thrigolion lleol – mae ’na fyd o hanes i’w darganfod yn Siroedd Brycheiniog a Maesyfed.”

Mae sawl Menter Iaith dros Gymru wedi mynd ati i gynhyrchu llyfrynnau o’r fath gyda Menter Bro Ogwr yn lansio Llyfryn Poced Enwau Lleoedd Bwrdeistref Penybont-ar-Ogwr yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal y llynedd. Dywed Marged Rhys, Swyddog Datblygu Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn o allu lansio llyfryn enwau lleoedd ar y stondin eto eleni. Gydag Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl symudol, mae’n braf gallu rhoi sylw waith caled menter iaith wahanol bob blwyddyn. Mae’r llyfr gan Fenter Brycheiniog a Maesyfed yn adnodd gwych i bobl o’r ardal a thu hwnt ac yn gyfle arbennig i ddathlu’r enwau Cymraeg unigryw sy’n bodoli yma yng Nghymru.”