Llinell ffôn newydd o’r sector gwirfoddol yng Nghymru yw Cynllun Cyfaill Cymru sy’n cysylltu pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, gyda gwasanaethau cyfeillio yn ystod y pandemig.

Pleser yw medru datgan bod partneriaeth o fudiadau gwirfoddol yn cynnwys CGGC wedi bod yn cydweithio gyda chwmni Orchard ac S4C i greu hysbyseb mewn ymateb i’r cyfnod pandemig cofid-19.

Wrth gynllunio’r ymateb ar gyfer y cyfnod clo, daeth nifer o fudiadau o Rhwydwaith y Gymraeg Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector at ei gilydd i rannu eu pryderon am rhai carfannau o fewn cymdeithas oedd yn cael eu heithrio o’r cyfathrebu digidol oedd wedi cychwyn digwydd.

Roedd yn amlwg bod carfan o bobl hŷn, pobl oedd yn ynysu am resymau meddygol a phobl oedd â derbyniad band llydan gwan neu ddim o gwbl, yn methu defnyddio’r dulliau rhithiol oedd yn dod yn rhan mor arferol o gysylltu â’r byd.

Mewn ymateb i hyn sefydlodd nifer o fudiadau cymunedol linellau ffôn cyfeillio sydd yn cynnig galwad ffôn a sgwrs uniongyrchol i’r bobl sydd yn ei ddymuno i sicrhau eu bod yn medru siarad a chael clonc yn Gymraeg.

Diolch i fenter S4C i rhoi amser hysbysebu am ddim i elusennau, penderfynodd y rhwydwaith wneud cais i fedru hysbysebu’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol ar y sgrin fach – un o’r ffyrdd gorau i gyfathrebu â’r rhai sydd yn methu defnyddio ffyrdd digidol.

Daeth grŵp llywio at ei gilydd i greu cynnwys neges lafar yr hysbyseb gan sicrhau bod y geiriau tafodieithol am sgwrsio neu siarad yn cael eu defnyddio i adlewyrchu natur genedlaethol y gwasanaethau sydd yn cael ei ddarparu gan nifer o fudiadau ar hyd a lled Cymru.

Roedd angen i’r neges bwysleisio bod y mudiadau yn parhau i fod yno i gynorthwyo a chefnogi ein cymunedau yn ogystal er nad oedd modd cwrdd wyneb yn wyneb.

Yn rhan o’r gwasanaeth mae’r Mentrau Iaith, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Age Cymru, Merched y Wawr a CTSC (y Cynghorau Gwirfoddol Sirol).

Bydd un rhif yn cyfeirio’r galwr at dîm y CGGC a bydd y sgwrs honno yn canfod pa wasanaeth fyddai orau i’r unigolyn ac yn eu rhoi mewn cyswllt.

Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb ar hyd a lled Cymru ac ar gost galwad ffôn.

Bydd yr hysbyseb yn cael ei ddangos ar S4C yn ystod mis Awst.