Gyda haf hir o’n blaenau, beth am ymuno yng nghystadleuaeth Menter Iaith Bangor a Hunaniaith i ddysgu cymaint â phosibl o englynion?

Fel y gwyddoch, mae holl blant Cymru yn cael eu haddysgu o adref bellach oherwydd Coronafeirws. Felly, fe feddyliodd Menter Iaith Bangor y byddai’n gyfle da i ennyn diddordeb pobl ifanc ac oedolion Gwynedd mewn barddoniaeth Gymraeg.

Englyn 1 LlynMae 4 categori i gyd, a cyhoeddir y gwobrwyon yn fuan – sef her i flynyddoedd Ysgol 7-9 i ddysgu 35 englyn, her i flynyddoedd 10-11 i ddysgu 50 englyn, her i flynyddoedd 12-13 i ddysgu 70 englyn a her i oedolion 18 oed a hŷn a dysgwyr Cymraeg i ddysgu 100 englyn. Cychwynnodd y gystadleuaeth ar y 1af o Ebrill a daw i ben ar y 1af o Fedi 2020. Bydd Menter Iaith Bangor a Hunaniaith yn cyhoeddi 20 englyn newydd y mis ar dudalen Facebook i’r cystadleuwyr eu dysgu. Hefyd anogir unigolion i roi sylwadau a/neu uwch lwytho fideos o’u profiadau dysgu ar Facebook i weld sut hwyl mae pawb yn ei gael.

Meddai Menna Baines, sy’n un o aelodau Menter iaith Bangor a golygydd y cylchgrawn ‘Barn’;

“Tarddodd y syniad yma o gystadleuaeth a gynhaliwyd gan Elfed Gruffydd, cyn Bennaeth Ysgol Gynradd Nefyn ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 yn 1981. Felly dyma feddwl am atgyfodi hynny eto rŵan. Bryd hynny llwyddodd sawl disgybl i ddysgu oddeutu 100 o englynion, oedd yn gamp arbennig iawn. Ond y tro yma mae cyfle i’r teulu i gyd gystadlu. Tybed felly a welwn ni drechu camp rhai o ddisgyblion  Ysgol Gynradd Nefyn yn ’81? Dyna’r her!”

Nodiadau Her Englyn

Ceir ffurflen gofrestru i gofnodi pa englynion rydych chi wedi eu dysgu ar dudalen Facebook y digwyddiad.

Pob hwyl i chi gyd! #HerDysguEnglynion