Er y siom o orfod gohirio gwyliau cymunedol cerddorol Cymraeg dros Gymru eleni, mae’r Mentrau yn parhau i fynd amdani a rhannu’r arlwy arlein.

Tafwyl + Gŵyl Fach y FroTAFWYL Poster Line up

Bydd rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio’n fyw ar 20 Mehefin, gan gynnig dihangfa groesawgar o’r sefyllfa bresennol. Bydd yr ŵyl yn parhau i gynnig cyfuniadcyffrous o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant.Bydd y gerddoriaeth yn dod ynfyw o gartref diweddaraf y digwyddiad, Castell Caerdydd, gan fod ymysg y cyntaf o wyliau’r DU i ffrydio o leoliad yr ŵyl. Dywedodd Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl;

“Mae’r gigs ystafell wely a welwyd yn ddiweddar gan wyliau poblogaidd eraill wedi bod yn wych wrth gwrs wrth lenwi’r bwlch diwylliannol dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd y tîm ym Menter Caerdydd yn teimlo y byddai’n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref, a hynny o leoliad eiconig, ganddathlu popeth sy’n wych am ein hiaith a’n diwylliant. Wrth gwrs, trwy gydol y cyfnod cynllunio,diogelwch sydd wedi bod yn flaenoriaeth, ac rydym wedi cydymffurfio’n llawn â rheolaua chyfyngiadau’r Llywodraeth. Rhaid diolchi’n cyllidwyr a’n cefnogwyr allweddol sydd wedi ein galluogi i ddod â Tafwyl i chi eleni. Eryn wahanol iawndan reolaeth lym a heb gynulleidfa, ni allwn aros i fod yn ôl yng Nghastell Caerdydd.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar AM -platfform ar-lein sy’n rhannu a dathlu creadigrwydd Cymru. Mae ap AM am ddim i’w lawrlwytho oApple App Store a Google Play – www.amam.cymru/ambobdimac mae modd gwylio ar gyfrifiadur ar www.amam.cymru Am fwy o wybodaeth ac i weld amserlen y digwyddiadau, ewch i www.tafwyl.cymu a chyfryngau cymdeithasol Tafwyl @Tafwyl /#tafwyl20

Ffiliffest

ffiliffest2

Mae Ffiliffest hefyd yn dychwelyd eleni yn ei ffurf digidol ar dudalen Facebook Menter Caerffili ar Fehefin y 6ed gyda gweithgareddau, jam ukulele, dawnsio, celf a cherddoriaeth gan yr hyfryd Bronwen Lewis.

Ac os taw gemau cyfrifiadurol yw eich diddordeb? Bydd sianel ‘Yn Chwarae’ yn cynnal marathon Twitch o gemau cyfrifiadurol Cymraeg am 12 awr fel rhan o Ffiliffest rhwng 10yb a 10yh!

Gŵyl y Dysgwyr Sir Benfrogwyl y dysgwyr

Mae hefyd yn brysur yn Sir Benfro ar Fehefin yr 20fed gyda Gwyl y Dysgwyr yn symud ar-lein eleni. O’r ‘Bore coffi’ i’r ‘Te Prynhawn’ – bydd rhywbeth at ddant pawb!

Gŵyl Fel ‘na Mai

Roedd Gwyl Fel ‘na Mai fod cael ei chynnal ar benwythnos Calan Mai yn Sir Benfro am y tro cyntaf eleni. Er y siom o’i gohirio, cynhaliodd Fenter Iaith Sir Benfro wyl rhithiol gan bostio llwyth o fideos cerddoriaeth Gymraeg byw ar y dudalen Facebook. Gallwch wylio nol yma.

 

Ac mae mwy i ddod!