Ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda Menter Iaith yn eich ardal chi? Dyma brofiad Elena sy’n gwirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Ddinbych.

Enw: Elena Brown
Oed: 19
O le? Dinbych
Pam wnes di wirfoddoli gyda Menter Iaith?
Roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau ym mhellach a chael blas o weithio mewn gwahanol feysydd ac ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r Fenter yn cydweithio efo pobl ar hyd y sir ac yn darparu’r sgiliau a chysylltiadau wrth i chi geisio datblygu fel unigolyn efo cyfrifoldebau. Roeddwn i eisiau cael mewnwelediad i’r gwaith sy’n mynd mewn i’r gweithgareddau maent yn eu cynnal.

Beth wyt ti wedi dysgu o’r profiad?
Dwi’n meddwl bod gwirfoddoli wedi bod o fudd mawr i mi. Mae’r profiad wedi adeiladu fy ymroddiad, angerdd ac ymrwymiad tuag at yr iaith a’r gwaith wedi rhoi’r sgiliau cychwynnol priodol i mi wrth fynd mewn i’r byd gwaith. Dwi wedi tyfu mewn hyder wrth weithio’n annibynnol ar hyrwyddo, trefnu ac wedi cael cyfleoedd i ysgrifennu i’r wasg. Rhoddodd y profiad syniad i mi ar beth yw fy nghryfderau a beth dwi angen mwy o brofiad ynddo, sy’n rhywbeth sy’n bwysig i bobl fod yn ymwybodol ohono. Roedd y Fenter yn gadael i mi archwilio i’r ffordd dwi’n gweithio orau a rhannu hynny gydag eraill.

Ydy’r profiad wedi bod yn werthfawr i ti?
Mae llawer o bobl yn cwestiynu beth yw’r pwynt gwirfoddoli a gweithio am ddim, ond ni fyddai wedi cael y profiadau dwi wedi eu cael heb weithio efo’r Fenter a chyfarfod yr holl bobl dros y cyfnod efo nhw. Mae’r profiadau wedi bod yn ddiddiwedd ers cychwyn yno, dros faes eang oedd yn gorchuddio gwaith hefo nifer o oedrannau. Roedd o’n brofiad gwych medru bod yn rhan o waith y Fenter, gan ei fod yn pwysleisio’r hwyl sydd i’w gael wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol a chymdeithasol.

 

mentrau-iaith-volunteering-banner