Un rhan o’n gwaith yw trefnu hyfforddiant i staff y 22 Mentrau Iaith, hynny mewn amrywiol feysydd o cymorth cyntaf i amddiffyn plant, o gynllunio ieithyddol i ddatblygu cymunedol, o GDPR i iechyd a diogelwch.
Rydym yn awyddus i greu cofrestr o’r hyfforddiant cyfredol sydd bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i staff endidau yn y trydydd sector.
Bydd cofrestr o’r fath yn gymorth i:
  • gynllunio a phwrcasu hyfforddiant yn y dyfodol
  • adnabod bylchau yn yr hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd
  • creu cyfleoedd i endidau gydweithio a chyd drefnu hyfforddiant
  • cyfle i gwmniau a darparwyr hysbysebu eu cyrsiau hyfforddiant
Bwriadwn rannu’r wybodaeth ar ein gwefan, ond mae croeso i endidau nodi fod y wybodaeth ddim ond i ddefnydd mewnol Mentrau Iaith Cymru ac wedyn ni fyddwn yn ei rannu.
Gofynnwn felly i gwmnïau ac unigolion gysylltu gyda ni drwy lenwi’r ddogfen sydd wedi eu hatodi yn nodi pa hyfforddiant sydd ar hyn o bryd ar gael yn y Gymraeg, ym mha ardaloedd daearyddol, pa achrediad (os o gwbl) sydd yn rhan o’r hyfforddiant a pha ffurf sydd i’r hyfforddiant (wyneb i wyneb, webinar, moodle ayyb)
Mae croeso i chi gysylltu a mi: iwanhywel@mentrauiaith.cymru neu ffoniwch fi yn ein prif swyddfa yn Llanrwst – 01492 643401