Ar Hydref 15fed, 2019 bydd pobl dros Gymru gyfan yn cyfarch eu gilydd gyda Shwmae neu Su’mae a’n annog eraill i roi tro arni.

Dyma 7fed Diwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod cenedlaethol sydd yn dathlu’r Gymraeg, drwy annog a rhoi hyder i bobol i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg. Mae’r diwrnod yn cael ei gydlynu gan grŵp ymbarél ‘Dathlu’r Gymraeg’, ond mae’r holl weithgareddau a’u cynhelir yn cael eu paratoi gan gannoedd o unigolion, grwpiau, cymunedau, sefydliadau, mudiadau, a gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.

Rhan o’r ymgyrch eleni fydd annog pobl i flasu’r Gymraeg mewn digwyddiadau lu o flasu gwin i glonc dros goffi. Bydd y Mentrau Iaith yn lleol i chi yn cefnogi’r diwrnod drwy ddarparu cardiau post gyda geirfa syml i helpu pobl fynd ati i ddysgu. Cysylltwch gyda’ch Menter leol i weld sut y gallant helpu.

Shwmae

Mae un o wirfoddolwyr brwd Menter Iaith Abertawe wedi ei wneud yn Bencampwr i’r diwrnod eleni, fel enghraifft o rhywun sydd wedi mynd ati, nid yn unig i ddysgu’r Gymraeg, ond i helpu eraill. Mae Neil Rowlands, yn wreiddiol o Gaerdydd a nawr yn byw yng Nghasnewydd. Ef yw sefydlwr y cylchgrawn dwyieithog arlein ‘Parallel’ – cylchgrawn sydd yn gwneud darllen yr iaith yn fwy hygyrch i ystod ehangach o bobl. Cafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg trwy glywed cydweithwyr yn siarad yr iaith o gwmpas yr adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ar y pryd, roedd yn gweithio drws nesaf i’r adran ac roedd clywed y Gymraeg yn gyson am y tro cyntaf wedi gwneud iddo sylweddoli bod cymunedau o bobl yn defnyddio’r iaith bob dydd. Dyma’r gymuned hefyd yn y pendraw, wnaeth ei gefnogi fel dysgwr newydd, ynghyd â chanolfan iaith Tŷ Tawe. Ar ôl ymestyn ei fedrau iaith drwy siarad, dechreuodd wedyn gyfrannu nôl tuag at y gymuned Cymraeg drwy wirfoddoli, rhedeg y grŵp sgwrsio wythnosol i ddysgwyr, gweithio yn ad-hoc siop Tŷ Tawe ac mewn gigiau.

I ddysgu mwy am ddiwrnod Shwmae Su’mae, lawrlwytho adnoddau i’w defnyddio ar y diwrnod neu i ddarllen am y pencampwyr ewch i www.shwmae.cymru