Eleni mae swyddogion newydd wedi eu penodi ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Menter Iaith Sir Ddinbych er mwyn helpu cymunedau i sefydlu grwpiau cymunedol neu gynnig cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli.

Diben y prosiect yw annog grwpiau i gynnal digwyddiadau er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn eu hardaloedd lleol, gyda’r Swyddogion Datblygu yn mynychu’r cyfarfodydd i gynnig cymorth ble bydd angen, gan gynnwys cymorth wrth geisio am grantiau. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014 -2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dywed Cadi, Swyddog Datblygu Cymunedau Dwyieithog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn cynnig cymorth i greu grwpiau cymunedol o’r newydd a cynnig cymorth i grwpiau cymunedol sydd eisioes yn bodoli  i gynnal digywddiadau dwyieithog yn eu ardaloedd nhw. Gan gynnwys Prynhawn Hwyl i’r Teulu, sesiynau gwneud Dolis ŷd, Sesiynau Crefft. Rydw i hyd yn oed ar fin cynnig cymorth i grŵp sydd am greu perllan cymunedol. Mae llawer iawn o bosibiliadau gwahanol gyda’r prosiect yma o nosweithiau swisho, cwis, clwb cerddded, sesiynau ffitrwydd, sesiynau crefft a llawer iawn mwy! Roeddwn i’n awyddus i gael cynal digywddiad yn yr Wyddgrug er mwyn hybu’r prosiect ac i ddangos i gymunedau eraill y mathau o ddigwyddiadau sydd ar gael iddynt drwy’r prosiect.”

Ar nos Iau, 14eg o Dachwedd bydd Noson Swisho yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug, sef noson hwyliog o gyfnewid dillad. Esbonia Cadi;

“Rwyf yn frwd iawn i geisio helpu’r amgylchedd a gwneud y pethau bychain adref i leihau fy ôl troed carbon a roeddwn i’n meddwl bod y prosiect yn gyfle gwych i hyrwyddo lleihau gwastraff ac ail ddefnyddio. Mae digwyddiad swisho yn gyfle i bobl gyfnewid y dillad nad ydyn nhw’n eu gwisgo bellach e.e. Gall fod yn ffrog rydych chi wedi gwigso hi unwaith i barti Nadolig a ddim wedi ei gwisgo hi wedyn. Felly mae’n rhaid i’r dillad fod o safon uchel gyda ddim rhwygau neu staeniau. Mae croeso i bobl ddod a dillad, esgidiau, gemwaith a bagiau gyda nhw!”

Bydd modd i unigolion ddod a’r dillad o flaen llaw ac yn cyfnewid nifer o eitemau am docynau swisho, a defnyddio’r rhain fel arian i brynnu eitemau eraill. Mae’n ffordd hwylys o gael dillad newydd heb orfod gwario a chreu gwastraff. Bydd cwmni Cowbois yno hefyd i werthu hwdis a crysau t Cymreig ac adloniant gan Gôr Lleisiau Clywedog dros wydryn o brosecco.

Poster terfynol noson swisho