Mewn ymateb i apêl gan deuluoedd amrywiol, a phryder ehangach am anfantais fydd i’r plant nad ydynt yn derbyn Cymraeg yn eu haddysg adref, lansiwyd Adnodd Dysgu Adref cynhwysfawr Selog ar-lein.

Wrth baratoi’r adnoddau, roedd pwyso a mesur ateb gofynion sawl sefyllfa deuluol megis:thumbnail_Screenshot_20200419-220414 - Copy

  • y di-Gymraeg, ble mae’r plant yn methu ar y cyfle i barhau gyda’u haddysg Gymraeg drwy’r ysgol,
  • rhieni sy’n gweithio o adref a heb amser i addysgu nac yn wir i roi llawer o sylw i’r plant ar adegau pan fyddant ee mewn cyfarfodydd fideo,
  • y siaradwyr Cymraeg sy’n awyddus i gael adnoddau Cymraeg strwythuredig ond heb yr amser i fynd i chwilio ym mhob man,
  • y gofalwyr i niferoedd y plant, neu unigolion â gofal ychwanegol, sydd eisoes dan bwysau, cyn dechrau meddwl am gynllunio dysgu.

Lluniwyd rhaglen ddysgu 12 wythnos, sy’n pwysleisio meithrin sgiliau dysgu’n annibynnol fel ag sy’n ddisgwyliedig yn y Cwricwlwm i Gymru, gan ddefnyddio’r cymeriad plant hoffus Selog yn ganolbwynt i roi sylw ag i ymateb i waith y plant. O ddefnyddio amrywiaeth o apiau di-dâl i’w lawrlwytho ar ffonau, iPads neu Tablets, mae’r Adnodd yn fwy hygyrch i ystod ehangach o deuluoedd. Mae’r adnodd hefyd yn ffrydio awgrymiadau dysgu hyd ddiwedd oed cynradd, sy’n caniatáu i deuluoedd gyda phlant oed cymysg ddefnyddio’r un Adnodd wedi gwahaniaethu’n hwylus.

thumbnail_Cynllun Dysgu Selog - Wythnos 1 Tymor yr Haf - 1st week Summer Term - CopyCyhoeddir yr amserlen wythnosol, y taflenni gwaith cefnogol, a’r fideos ysgogol ar safle Facebook SelogAp ar nos Sul. Yn ogystal, i ysgogi’r plant i ddal ati am 12 wythnos, cynigir gwasanaeth ymateb i waith disgyblion, a gwobrau wythnosol yn ogystal â chyfle i 3 aelod o ‘Clwb Selog’ i fachu ymweliad gan Selog i’w hysgol pan fydd yn ailagor.

Esboniodd Nia Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn:

“Ni ddylai unrhyw blentyn gael eu hamddifadu o’r Gymraeg oherwydd cefndir ieithyddol eu teulu. Felly gobeithiwn drwy rannu Adnodd Dysgu Selog bydd pob teulu, waeth be fo’u cefndir ieithyddol, yn gweld fod modd cyflwyno’r Gymraeg i’w plant yn y cartref. Mae’r Adnodd Dysgu yn gwneud defnydd helaeth o apiau di-dâl Selog (y Canu, Darllen, Ioga a Symud!), apiau poblogaidd Magi Ann, Bys a Bawd, Dewin a Doti, Tric a Chlic, CywTiwb a S4Clic. Mae’r Cynllun Dysgu hefyd yn llwyddo cyfuno’r apiau yma i gynnig un rhaglen ddysgu hawdd ei drin i’r teulu oll gan brynu amser i rieni prysur.”

Yn ogystal â’r Adnodd Dysgu sy’n seiliedig ar ddefnydd o apiau, mae Adnodd Selog hefyd yn cyfeirio teuluoedd at adnoddau pynciol arbenigol ar-lein gan hwb.gov.wales a gwasanaeth Calendr Digwyddiadau Mentrau Iaith Cymru, sy’n dathlu’r Gymraeg drwy ddysgu sgiliau, sgwrsio a diddanu’n ddigidol.

Eisoes lawrlwythwyd apiau Selog dros 26,000 gwaith, a cheir gwybodaeth am yr Adnodd newydd a’r apiau ar Facebook a Twitter @SelogAp neu drwy e-bostio selog@mentermon.com.

Selog a Leisa yn cynnig ioga i deuluoedd drwy app