Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd unwaith eto i Ynys y Barri, ac am y pumed flwyddyn yn olynol mae’n rhan bwysig o raglen digwyddiadau haf y Cyngor (Barry Island Weekenders).

Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed, ac mae’r trefnwyr, Menter Bro Morgannwg, yn falch i gyhoeddi rhaglen lawn Gŵyl Fach y Fro 2019.

Yn perfformio ar Brif Lwyfan Gŵyl Fach y Fro eleni bydd Meic Stevens a’r Band, The Gentle Good, Chroma, Bwncath, Bronwen Lewis, Canfas (grŵp o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg) a Dagrau Tân (band Ysgol Sant Baruc). Am y tro cyntaf eleni, bydd Sioe Cyw hefyd yn ymddangos ar y Prif Lwyfan i gynnig adloniant i’r plant lleiaf.

BANER FB GFYF 2019

Mae’r Fenter hefyd yn falch i gyhoeddi bod Llwyfan Gymunedol newydd yn cael ei lansio yn rhan o’r ŵyl eleni – sydd wedi cael ei henwi yn dilyn ymgyrch gan ddisgyblion blwyddyn 6 Ysgol Sant Curig. Bydd ‘Glanfa Gwynfor’ yn cynnig mwy byth o gyfleoedd i blant a phobl i gymryd rhan yn yr ŵyl, gyda pherfformiadau gan gannoedd o ddisgyblion ysgolion lleol, plant o’r Cylchoedd Meithrin cyfagos yn ogystal â chorau cymunedol.

Bydd stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol yn yr ŵyl yn oystal ag ardal chwarae, beiciau bybls, sgiliau syrcas, salon glitter, perfformiadau stryd, gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru, Dysgu Cymraeg y Fro, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd. 

Bydd Vintage Points Events Bar yn gweini amrywiaeth o wirodydd, gwinoedd, cwrw a seidr lleol, Handlebar Barista yn gweini diodydd poeth, a bydd bwyd wedi’i arlwyo gan The Queen Pepiada, Fablas, Grazing Shed, The Teifi Toastie a Puckin Poutine.

Elfen hollbwysig i Gŵyl Fach y Fro yw ei fod yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, mewn lleoliad unigryw, cyhoeddus a phoblogaidd ar Ynys y Barri, gan ei wneud yn ddigwyddiad hynod hygyrch i bawb; boed yn siaradwr Cymraeg, neu’n cael eu profiad cyntaf o’r iaith a’r diwylliant. Mae’r ŵyl yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 7pm.

Bydd modd i ymwelwyr wirio’r rhaglen a’r wybodaeth ddiweddaraf am Gŵyl Fach y Fro ar wefan, tudalen Facebook, Twitter ac Instagram Menter Bro Morgannwg:

www.menterbromorgannwg.cymru
Facebook: Menter Bro Morgannwg
Twitter: @MIBroMorgannwg
Instagram: Menter Bro Morgannwg
#gwylfachyfro