Yn dilyn trafodaethau yn cydnabod pwysigrwydd gwyliau cymunedol cerddorol Cymraeg tuag at gyflwyno’r iaith a diwylliant Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd, cytunodd Lywodraeth Cymru ddarparu pot grantiau gwerth £50,000 i gefnogi gŵyliau cymunedol cerddorol Cymraeg yn 2019–20.

Rydym yn deall pwysigrwydd cerddoriaeth fyw cyfrwng Cymraeg wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r iaith a normaleiddio’r iaith tu allan i wersi ysgol. Mae’n greiddiol i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gallu helpu i gynnal cyfleoedd i artistiaid berfformio mewn cymunedau dros Gymru yn hynod bwysig gyda channoedd o gyfleoedd cerddorol yn cael eu trefnu neu eu cefnogi gan y Mentrau Iaith drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys gwyliau cymunedol.

Nod y Cynllun yw hybu gwyliau cymunedol gyda phwyslais ar gerddoriaeth boblogaidd Cymraeg drwy gynnig cefnogaeth ariannol i sefydliadau a grwpiau lleol i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu a chynnal gweithgaredd sy’n cyfrannu at fwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn gymunedol.

Cyfanswm y gronfa ar gyfer 2019/20: £50,000 gyda chafswm y grant a ddyrennir i unrhyw sefydliad / grŵp yn £5,000

Roedd y Cynllun yn agored i’r Mentrau Iaith sydd naill ai yn cynnal Gŵyl am y tro cyntaf, neu wedi sefydlu yn y 3 blynedd diwethaf, neu sydd yn cynnwys elfen newydd eleni, gan edrych ar y gwaddol gorau phosib i’r Gymraeg yn eu cymunedau. Roedd hefyd yn bosib i grwpiau cymunedol gysylltu gyda’u Menter Iaith lleol i wneud cais mewn cydweithrediad gyda’r Fenter.

GFYF 2018-177

Roedd y gronfa yn agored am fis rhwng diwedd Mawrth a diwedd Ebrill a cafwyd 21 cais cyn y dyddiad cau a cafodd eu beirniadu gan banel anibynnol ddechrau mis Mai.

Y gwyliau llwyddiannus yw:

Gwyl y Ferch – Ynys Mon

Parti Ponty – Rhondda Cynon Taf

Gwyl Canol Dre – Caerfyrddin

Gwyl Car Gwyllt – Blaenau Ffestiniog

Ffiliffest – Caerffili

Gwyl Newydd – Casnewydd

Gwyl Fach y Fro – Bro Morgannwg

Gwyl Bro Dinefwr

Gwyl Werin – Merthyr Tudful

Gwyl Nansi Fach – Llanfyllin a Llanwddyn

Gwyl Aber – Aberystwyth

Mae Mentrau Iaith Cymru yn hapus bod y grant wedi gallu cefnogi ceisiadau o dros Gymru gyfan a cheisiadau gan grwpiau mewn cydweithrediad gyda’u Menter leol yn ogystal â gwyliau sy’n cael eu trefnu gan y Mentrau. Rydym yn edrych ymlaen i weld y gwyliau hyn yn datblygu a chael effaith gadarnhaol yn y gymuned.

Mae’r arian hwn rhan o gyfanswm o £4.3miliwn o gronfa a gyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi £4.3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau i hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi ffyniant yr iaith mewn cymunedau ledled y wlad.

Mae’r cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi ac adeiladu ar sail arferion a phrosiectau llwyddiannus sy’n cynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg o bob math i ddefnyddio, rhannu a mwynhau’r iaith dros y flwyddyn i ddod ac am flynyddoedd i ddod.”

Dyma flas o ddigwyddiadau’r Mentrau dros yr haf: