Mae MAD (Mudiad Adloniant Dolgellau) yn grŵp o bobl ifanc o ardal Dolgellau a ddaeth ynghyd i drefnu gigs Cymraeg i’w cyfoedion.

Meddai Owain Meirion Edwards, aelod gwreiddiol MAD;

“Fel rhan o MAD, rydym wedi trefnu nifer o gigs yng Nghlwb Golff y dref ac yn Nhŷ Siamas, gyda’r nod o hyrwyddo bandiau Cymraeg ar gyfer pobl ifanc (oedran ysgol uwchradd) yn yr ardal. Roedd y bandiau hyn yn cynnwys Swnami, Candelas a Fleur de Lys. “

Wedi’i ffurfio yn 2015, cefnogwyd MAD gan Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd – o’r cychwyn cyntaf. Caniataodd gyllid cychwynnol a chymorth parhaus gan Hunaniaith i’r trefnwyr ifanc fod yn greadigol a meithrin sgiliau yn y gweithle megis rheoli arian a threfnu digwyddiadau.

Meddai Bet Huws o Hunaniaith;

“Mae wedi bod yn fraint i gefnogi pobl ifanc MAD ers 2015. Mae Hunaniaith yn teimlo ei bod hi’n bwysig caniatáu i bobl ifanc drefnu digwyddiadau i’w cyfoedion a chael cyfle i ddysgu o’u camgymeriadau yn ogystal â’u llwyddiannau. Er mwyn cynyddu a chryfhau’r defnydd o’r iaith yng Nghymru, mae angen i ni greu’r cyfleoedd hyn yn lleol a dangos eich bod chi’n gallu byw, dysgu ac yn bwysicaf oll yn mwynhau’r iaith Gymraeg. “

Meddai Delyth Medi Jones, athrawes yn Ysgol Bro Idris, Dolgellau;

“Diolch i’r gefnogaeth ariannol gychwynnol gan Hunaniaith rydym bellach yn hunan-ddibynnol ac mae’r llwyddiant yn parhau gyda gigs yn cael eu trefnu bedair gwaith y flwyddyn yn Nolgellau. Mae Hunaniaith wedi helpu MAD gyda phob math o bethau fel argraffu posteri a bandiau garddwrn a grëwyd gan y grŵp ifanc, cyngor a chefnogaeth gyffredinol, sy’n help mawr.”

Rhai o gyn aelodau ac aelodau newydd MAD

Rhai o gyn aelodau ac aelodau newydd MAD