Chwilio am bethau i chi neu’r plant wneud yn y cartref? Dyma rai syniadau:

Apiau Cymraeg: 

Mae sawl ap Cymraeg yn bodoli bellach ar gyfer plant bach gan gynnwys rhai wedi’u creu gan y Mentrau Iaith fel Magi Ann, Selog a Bys a Bawd. Mae rhestr o rai apiau yma. ETaEnKeWAAEx6j6

Ap arall all fod o ddefnydd i chi dros y cyfnod ansicr hwn yw Ap Cwtsh i’ch helpu i fyfyrio ac ymlacio. 

Gall ap AM hefyd eich cadw’n brysur gyda’r sianeli Gwylio, Gwrando, Geiriau, Gigs a Gwyliau yn cael eu diweddaru’n aml i arddangos y gorau o’r celfyddydau yng Nghymru. 

Cerddoriaeth, radio a podcast: 

Gyda ffrydio cerddoriaeth mor hawdd i‘w wneud erbyn hyn, mae llu o restrau chwarae Cymraeg ar gael ar lein sy’n addas i bob oedran a chwaeth cerddorol. Chwiliwch am restrau chwarae Dydd Miwsig Cymru ar eich systemau ffrydio neu defnyddiwch BBC Sounds i chwilio am restrau chwarae Radio Cymru. 

Bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu cynnwys di-ri i’n setiau radio gyda podcasts o bob math ar gael ar BBC Sounds. 

Technoleg: 

Bydd technoleg yn dod yn rhan fwy o’n bywydau ni wrth i ni dreulio mwy o amser gartref yn y misoedd nesaf. Ond, mae pethau cadarnhaol y gallwch chi eu gwneud er mwyn cynyddu presenoldeb y Gymraeg ar dechnoleg. 

Beth am gymryd rhan yn ymgyrch Common Voice Cymraeg gan gyfrannu eich llais neu ddilysu? Ewch i voice.mozilla.org/cy am fwy o wybodaeth. 

Mae hefyd modd i unrhyw un greu neu gyfieithu erthygl ar Wicipedia Cymraeg. Gwyliwch y fideos hyn gan Menter Iaith Môn am fwy o wybodaeth. 

Hoffi flogs? Mae nifer cynyddol o flogs a fideos hwyliog yn bodoli ar Youtube. O fideos doniol a diddorol Hansh i fideos gemau fideo fel sianel Yn Chwarae – mae rhywbeth i ddiddanu pob blas. Neu beth am greu flog eich hunan gan ddefnyddio tips gan Fideo Fi?!

Darllen: 

Yn hoff o ddarllen? Beth am ddefnyddio’r cyfnod tawel i ddal fyny efo’r pentwr o lyfrau Cymraeg? Mae’n bosib bydd eich siop lyfrau lleol yn hapus i bostio llyfrau i chi. 

Mae sawl cylchgrawn Cymraeg bellach ar gael – Cara, Selar, Stamp, Codi Pais, Y Cymro, Barn, Golwg a mwy, a chomics fel Mellten. Gallwch danysgrifio i sawl un ohonynt ar-lein. 

Eisiau cefnogi eich papur bro? Mewn cyfnod ansicr, ni fydd modd i wirfoddolwyr y papurau bro gyfarfod i blygu a dosbarthu. Beth am edrych os oes ffyrdd gwahanol o ddarllen storïau bro megis ar wefan Bro360, dros e-bost neu rannu erthyglau ar Facebook? 

Teledu: 

Wrth ymlacio adref un ffordd o anghofio am yr ansicrwydd o’n cwmpas yw gwylio cyfresi a ffilmiau. Mae digon o nostalgia bellach ar S4C Clic yn cynnwys bocsets Jabas, Fideo 9, Amdani, Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan a ffilmiau dirdynnol fel Martha, Jac a Sianco ac addasiad o glasur T Llew Jones, Dirgelwch yr Ogof. 

Bydd digon o raglenni i blesio pob oedran hefyd ar S4C gyda Cyw, Stwnsh, Hansh a llawer mwy yn cael eu darlledu ar y sianel. 

Dysgu Cymraeg: 

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Gallwch ymarfer gyda Duolingo a Say Something in Welsh. Bydd hefyd cyfle i sgwrsio gyda phobl gan ddefnyddio Skype. Cysylltwch gyda’ch Menter Iaith leol neu’ch darparwr Dysgu Cymreg. 

Neu beth am wylio’r cynnwys ar S4C sydd wedi eu creu yn benodol i ddysgwyr Cymraeg yma? 

Mudiadau:

Mae gan sawl mudiad Cymraeg adnoddau neu grwpiau penodol all fod o ddiddordeb i chi – ewch am sbec!
Urdd Gobaith Cymru – adnoddau i blant a phobl ifanc ar Criw
Mudiad Meithrin – gweithgareddau i blant oed meithrin ar grwp Facebook Miri Meithrin
CFfI Cymru – grwp trafod a rhannu syniadau i Ffermwyr Ifanc Cymru ar Rhoi cic owt i Corona
Coleg Cymraeg Cenedlaethol – yn rhannu adnoddau a gwybodaeth Cymraeg i fyfyrwyr a disgyblion ysgol ar eu cyfrifon cymdeithasol
Comisiynydd y Gymraeg – yn rhannu gwybodaeth am adnoddau Cymraeg ar eu cyfrifon cymdeithasol

Cefnogi busnesau bychain: 

Os ydych chi’n awyddus i gefnogi’r busnesau bychain yn ein cymunedau, beth am brynu taleb ganddynt i’w ddefnyddio yn y dyfodol? Ffoniwch eich siop leol i weld sut gallwch chi eu cefnogi orau. 

Dewch yn aelod o grwp Gweithgareddau Cymraeg Gartref ar Facebook am fwy o syniadau neu ewch i’n calendr digwyddiadau yma.