Mae Dafydd Roberts wedi cefnogi ac annog cerddoriaeth Gymraeg yng nghymoedd y de ddwyrain ers 20 o flynyddoedd gyda dylanwad cyffro sin y 60au dal yn fyw;

“Cefais fy magu ar aelwyd di-Gymraeg i bob pwrpas a hynny ar y ffin, wrth gael fy ngeni a’m magu yn ardal Croesoswallt a’r Waun yn y gogledd ddwyrain. Er hyn, roedd ochr fy nhad yn Gymreig a Chymraeg eu hiaith, yn fwy na hynny yn gerddorol eu naws hefyd felly teg dweud cefais fy magu yn sŵn cerddoriaeth o oedran ifanc iawn.

Gallaf gofio i gyffro’r 1960s gael effaith fawr ar fachgen yn ei arddegau cynnar. Ar ran y Gymraeg – yng nghanol brwydr yr iaith – roedd Dafydd Iwan yn ddylanwad anferthol arnaf yn gerddorol ac yn wleidyddol. Ac er bod y Beatles a’r Rolling Stones yn tynnu arnaf – roedd Hogia’r Wyddfa a Dafydd Iwan yn gwneud yr un fath hefyd. Fy mherfformiad cyhoeddus cyntaf oedd canu cân Dafydd Iwan “Carlo” yn 1969 i dorf ddi Gymraeg yn y Parish Hall yn y Waun, a’r gynulleidfa yn cyd ganu “Carlo Carlo Carlo” heb lawer o syniad beth oedd yr ystyr. Ond rhywsut mi oedd y gerddoriaeth roc yn fy nenu yn fwy na’r triawdau elfennol tri chord a glywn yn aml yn y Gymraeg.”

Ar ôl 40 mlynedd o berfformio mewn amryw fand mae Dafydd Roberts wedi rhoi’r gitâr i’r neilltu a chodi’r ukulele;

“Y gwir oedd ‘mod i’n dechrau cael digon o symud amps trwm o un lle i’r llall i dafarndai ac ambell westy ac yn gweld nad oeddwn i byth yn mynd i fod yn Tich Gwilym na Eric Clapton. Yna cefais wahoddiad i gyfeilio i grŵp canu mewn priodas yn y gorllewin, dwy gân oedd y dasg un addas ar gyfer gitâr a’r llall yn addas ar gyfer ukulule! Er bod gen i ukulele doeddwn i ddim wedi rhoi llawer o sylw i’r offeryn. Ond dyna gychwyn ar daith sydd wedi rheoli fy mywyd dros y 5 mlynedd diwethaf.”

2

Sefydlwyd y clwb cyntaf yn 2015 gan Fenter Iaith Sir Caerffili a ofynnodd a fyddai Dafydd yn ystyried dysgu’r ukulele i griw bychan o oedolion, dysgwyr a siaradwyr Cymraeg gyda gwahoddiadau i berfformio yn nigwyddiadau’r fenter. Erbyn hyn Dafydd yw arweinydd gwirfoddol y clwb, sydd bellach yn hunangynhaliol.

“Bellach rydw i’n dysgu tair gwahanol gangen tair noson yr wythnos gydag oddeutu 50 yn dod i’r sesiynau. Rydym yn dysgu caneuon Cymraeg a Saesneg ac yn denu llawer iawn o ddysgwyr yr iaith i gymdeithasu a chanu yn y Gymraeg. Yn ddiweddar hefyd sefydlwyd band bach o’r enw “Dim Problem” (ukuleles, banjo, gitâr, Cajon, Hangdrum) sy’n perfformio’n bennaf yn y Gymraeg, ac eleni ni fydd yr act gyntaf i chwarae yn y Gymraeg yng Ngŵyl Ukulele Genedlaethol Cymru a gynhelir ar Benrhyn Gwyr ym mis Mehefin 2019.”

Bellach wedi ymddeol ar ôl bod yn Bennaeth ysgol ac arweinydd Grŵp Cefnogi Ysgolion, mae paratoi, cyflwyno a pherfformio cerddoriaeth Gymraeg yn ardaloedd prin eu Cymraeg yn y De Ddwyrain yn cymryd llawer iawn o amser Dafydd ac mae’n diolch i gefnogaeth y Mentrau Iaith;

“Mae’r mentrau iaith cyfagos wedi chwarae rhan allweddol wrth i mi gael y cyfle i berfformio ac addysgu yn ardaloedd Gwent, Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Does gennyn ni ddim o’r Cymry Cymraeg ifanc sydd yn symud i mewn i Gaerdydd a’r cyffiniau. Mae’n grwpiau ni yn gyffredinol yn bobl hŷn (un aelod dros ei wythdeg) ac yn bobl sydd wedi eu magu yn y cymoedd dwyreiniol. Pleser pur yw eu gweld yn cymdeithasu a pherfformio caneuon modern gyda chyfeillion newydd a hynny wrth chwarae cerddoriaeth Gymraeg.”