Mae canllaw newydd i ddysgu yn yr awyr agored, gafodd ei lansio ddydd Gwener, Mehefin 21ain yng Nghanolfan Mynydda Plas y Brenin, yn gosod fframwaith ar gyfer dysgu plant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 oed tu allan i’r dosbarth, yn rhai o fannau harddaf Cymru.

Mae’r canllaw, a gafodd ei lansio gan y naturiaethwr a llysgennad dysgu yn yr awyr agored Iolo Williams, yn dod â gwybodaeth a phrofiad arbenigwyr awyr agored ar draws Cymru at ei gilydd.  Bydd yn cynnig arweiniad i athrawon ac addysgwyr i wneud yr awyr agored yn rhan annatod o’u dysgu er mwyn cynnig profiadau bythgofiadwy.

Yn ôl y llysgennad, Iolo Williams,

“Dwi’n falch iawn o fod yn rhan o’r lansiad yma heddiw i annog mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau dysgu yn yr awyr agored.  Mi yda ni yn clywed gymaint heddiw am broblemau iechyd meddwl, gordewdra a diffyg ymarfer corff yn gyffredinol ac mae gan yr awyr agored ran bwysig iawn i’w chwarae yn taclo’r problemau yma. 

“Doeddwn i ddim yn mwynhau addysg ffurfiol, ac mae na amryw yr un peth a fi, ond mi oeddwn i wrth fy modd yn mynd allan efo taid a fy mam am dro yn dysgu am fyd natur.  Dwi’n gweld yr adnodd yma fel hwb i fwy o blant ac oedolion wneud yr un peth, gan ddysgu yn yr awyr agored.”

Mae’r cynllun yn ddatblygiad yn dilyn cydweithrediad Menter Iaith Conwy gyda mudiadau awyr agored yn yr ardal i ddatblygu sgiliau pobl ifanc lleol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywed Meirion Davies, Cyfarwyddwr Menter Iaith Conwy:

“Mae Menter Iaith Conwy wedi adnabod y maes Awyr agored fel un pwysig i’r ardal ers blynyddoedd. Trwy cronfeydd Ewropeaidd a chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri wedi ariannu cannoedd o siaradwyr Cymraeg i neud cymwysterau yn y maes ac mynd ymlaen i weithio yn y maes.

Cam hanfodol arall yw cynyddu diddordeb plant yn yr Awyr Agored a chynnig profiadau iddynt. Felly roedden yn awyddus i gydweithio efo Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored i sicrhau fod yna fersiwn Cymreig a Chymraeg o’r canllawiau yma ar gael. Rydym wedi cynorthwyo drwy dod a’r pecyn cyllido at ei gilydd i’w wireddu.. Mae nhw ar gael rŵan a mae nhw ar y ffordd i phob ysgol y wlad.”

Cafodd y canllaw hwn ei ddatblygu gan Banel Ymgynghorwyr Awyr Agored Cymru mewn partneriaeth gyda Chyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru i’w ddefnyddio gan ysgolion a cholegau, gwasanaethau ieuenctid, clybiau a chanolfannau yng Nghymru.

Dywedodd Arwel Elias, Ymgynghorydd Gwasanaeth Awyr Agored gogledd Cymru,

“Mae potensial anferth yn yr awyr agored i ddod â phynciau yn fyw ac rydym yn hynod o ffodus i gael amgylchedd gyfoethog, naturiol ar stepen ein drws.

“Mae mynd allan i ddysgu yng nghanol byd natur yn cynnig cyfleoedd dysgu cyffrous, perthnasol a hawdd eu cyrraedd i blant a phobl ifanc.  Mae hefyd yn cyfrannu tuag at ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu disgrifio yn y pedwar prif bwrpas a’r chwe maes dysgu a phrofi o fewn Cwricwlwm newydd Cymru.”

Ychwanegodd Phil Stubbington o Ymddiriedolaeth John Muir a chadeirydd Cyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru,

“Hoffem ddiolch i’n partneriaid, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Achub Mynydd Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Mentrau Iaith Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth John Muir am eu nawdd a’u cefnogaeth, gan na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl hebddyn nhw.”

‘Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol Cymru’ yw’r cam cyntaf ar gyfer strategaeth uchelgeisiol ar gyfer dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru, wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r adran Addysg.  Am fwy o wybodaeth, neu am gopi o ganllaw ‘Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol Cymru’ (ar gael yn Gymraeg a Saesneg),  ewch i www.oeap.co.uk / Cyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru www.walescouncilforoutdoorlearning.org. neu cliciwch ar y llun isod.

HQOL-Welsh