Cafodd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar Ionawr 22ain, 2020 a gafodd ei noddi gan gwmni cyfreithwyr Darwin Gray a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yr enillwyr yw:

Gwirfoddolwyr

Lloyd Evans – gwirfoddolwr gyda Menter Bro OgwrLloyd Evans gyda Rhian Milcoy o WCVA

Dechreuodd Lloyd ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Maesteg. Dewisodd astudio Cymraeg fel TGAU a Lefel A oherwydd ei fod yn falch o’i Gymraeg ac yn mwynhau dysgu ieithoedd. Ar ôl llwyddo yn y Brifysgol, symudodd yn ôl i’r sir a chwilio am gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg gyda Menter Bro Ogwr. Wedi cyfnod o wirfoddoli’n achlysurol gyda’r fenter, ymunodd gyda’r tîm fel gweithiwr ieuenctid. Ar ôl symud ymlaen yn ei yrfa fel cyfieithydd, mae Lloyd yn parhau i wirfoddoli gyda’r fenter fel aelod o’r bwrdd ac erbyn hyn yn gadeirydd y fenter. Mae Lloyd yn awyddus i sicrhau cyfleoedd i’r Gymraeg o fewn y sir ac yn credu’n gryf iawn ym mhwysigrwydd gwaith y Fenter i gyflawni hyn.

Technoleg:

WiciMôn – Menter Iaith MônAaron Morris a Rhodri ap Dyfrig o S4C

Pwrpas WiciMôn yw cyfoethogi’r Gymraeg ar Wicipedia er mwyn codi statws yr iaith gyda chwmnïau datblygu meddalwedd digidol, gan ganolbwyntio ar bynciau hanesyddol, gwyddonol a diwylliannol. Hyd yma, mae 2,752 erthygl wedi eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr WiciMôn; plant ysgol gynradd, uwchradd a phobl hŷn, sy’n gyfraniad sylweddol i’r Gymraeg ar y we.

Digwyddiad:

Parti Ponty – Menter Iaith Rhondda Cynon TafHeledd Williams, Einir Sion a Lauren Brown o Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf

Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy’n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o’r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros 5 lleoliad yn y sir yn 2019. Gyda gweithgareddau, adloniant, gweithdai, a stondinau amrywiol sy’n hybu’r Gymraeg – mae pobl ifanc yn rhan greiddiol i’r digwyddiad a dros 100 ohonynt yn gwirfoddoli i helpu’r ŵyl fod yn llwyddiant.

Cydweithio â Phartner:

Gŵyl Canol Dre – Menter Gorllewin Sir GârDewi Snelson a Gwawr Williams o Fenter Gorllewin Sir Gar gyda Daniel Johnson o Bro360

Mae Gŵyl Canol Dre yn cyflwyno celfyddydau a diwylliant Cymraeg i‘r gymuned gyfan, o bob oed yng Nghaerfyrddin, a hynny diolch i gydweithio effeithiol. Gyda mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o’r trefnu dros flwyddyn gyfan, mae gan bob partner rôl benodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl sy’n denu miloedd i fwynhau’r Gymraeg.

Datblygu Cymunedol:

Meithrinfa Derwen Deg – Menter Iaith ConwyEirian Jones, Sioned Evans, Annette Evans a Nia Owen o Fenter Iaith Conwy gyda Marc Davies o Co-op Cymru

Yn ateb i ddiffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ardal arfordirol Sir Conwy aeth Menter Iaith Conwy ati i gyd-weithio’n agos ag aelodau’r gymuned i greu menter gymdeithasol newydd i ateb y galw. Erbyn hyn mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg yn cynnig gofal i ddegau o blant pob dydd ac yn cyflogi 12 aelod o staff sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru a’n ceisio cynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn dilyn strategaeth Llywodraeth Cymru.

Diolch i Catrin Heledd am gyflwyno’r noson ac i Sorela am ein diddanu!