Gigs Cantre’r Gwaelod – elusen newydd sy’n trefnu gigs cerddorol yn Aberystwyth – diolch i gyfleoedd yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol.

Mewn partneriaeth â Theatr Felinfach, sefydlodd Cered Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn 2016 gyda’r prif nod o ddatblygu sgiliau arwain a gallu yn y gymuned. Un sydd wedi elwa o’r prosiect yw Steffan Rees o Aberystwyth. Mae’n dweud;

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael lle ar yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn 2016, cynllun a gefnogir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Roedd yn gwrs dwys i ddatblygu sgiliau, ymwybyddiaeth a gwybodaeth pobl ifanc yng Ngheredigion i arwain prosiectau yn eu cymunedau.

 Fel dilynwr brwdfrydig o’r sin gerddoriaeth Gymraeg, teimlais fod Aberystwyth wedi bod yn dawel heb gigiau Cymraeg rheolaidd am rai blynyddoedd a bod rhywun angen gwneud rhywbeth. Gyda chymorth fy mentor o’r Academi Arweinyddiaeth Gymunedol, Owain Schiavone o gylchgrawn Y Selar, penderfynais i ddechrau Gigiau Cantre’r Gwaelod. Gyda chymorth yr Academi, dechreuais yr elusen fach gyda’i chyfansoddiad a’i gyfrif banc ei hun er mwyn cynnal gigs ymlaciedig ar ddyddiau Sul yn y Bandstand yn Aberystwyth. Rydym wedi derbyn adborth gwych o’r gig gyntaf ac rydym yn parhau i geisio datblygu’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal. Croesawn unrhyw un sydd am gynnig help ac ymuno â’r criw!”

Mae Steffan hefyd yn gweithio gyda Cered, Menter Iaith Gymraeg Ceredigion, ac maent yn parhau i gefnogi’r sin gerddoriaeth Gymraeg mewn sawl ffordd wahanol. Dywed;

“Mae Cered yn frwdfrydig iawn am geisio datblygu cerddoriaeth Gymraeg yng Ngheredigion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd Cered yn un o’r partneriaid wrth sefydlu Gŵyl Crug Mawr ger Aberteifi, yn trefnu gigs ac yn cynnal nifer o weithdai roc mewn ysgolion ar draws y sir. Ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda Gŵyl Nol a Mlan a Gwersyll yr Urdd Llangrannog i greu “Y Band”, grŵp o blant lleol sydd am chwarae yn yr ŵyl ym mis Gorffennaf.

Mae dwy gig wedi eu trefnu yn arbennig ar gyfer penwythnos Dydd Gŵyl Dewi – Fleur de Lys, Mei Emrys a Bwca yn Llanbedr Pont Steffan a Lleuwen Steffan a Blodau Gwylltion yn Aberystwyth. Bydd chwe ysgol gynradd yn ardal Aberystwyth hefyd yn perfformio’r caneuon a gyfansoddwyd ganddynt yn ystod gweithdai roc yn ystod Gorymdaith Dewi Sant yn Aberystwyth.”