Pwyllgor / Bwrdd Menter

Mae mwyafrif y Mentrau Iaith wedi eu sefydlu gan fwrdd cyfarwyddwyr sy’n arwain gwaith y fenter yn wirfoddol. Mae’r mentrau yn croesawu aelodau newydd i’w byrddau a phwyllgorau yn gyson.

Cyfarfod Rhanbarth Cyfarwyddwyr y De Ddwyrain 2019

Cyfarfod Rhanbarth Cyfarwyddwyr y De Ddwyrain 2019

Rhai cyfrifoldebau

  • Mynychu cyfarfodydd bwrdd chwarterol
  • Mynychu cyfarfod blynyddol
  • Pennu cyllidebau a chynlluniau gwaith
  • Creu cynllun gweithredol a chyfrannu syniadau i waith y fenter
  • Fel aelod o fwrdd neu bwyllgor bydd modd i chi dderbyn rolau penodol o fewn y sefydliad megis Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd neu arwain ar brosiectau sy’n bwysig i chi.

Fel aelod o fwrdd neu bwyllgor menter leol bydd hefyd cyfle i chi rwydweithio gyda chyfarwyddwyr mentrau eraill fel rhan o gyfarfodydd rhanbarthol a drefnir gan Fentrau Iaith Cymru. Mae’r cadeirydd hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu Cynhadledd flynyddol Mentrau Iaith Cymru gyda Phrif Swyddog y fenter leol i drafod pynciau pwysig a rhwydweithio gyda’r mentrau eraill dros Gymru.

cynhadledd

Cynhadledd Mentrau Iaith Cymru 2018